PSB 09
Dulliau gweithredu lleol ar gyfer lleihau tlodi:
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus
Local Approaches to poverty reduction:
The Well-Being of Future Generations Act and public service boards
Ymateb gan: Samariaid Cymru
Response from: Samaritans Cymru
Ynghylch Samariaid Cymru: Mae’r Samariaid yn elusen gofrestredig â’r nod o ddarparu cymorth emosiynol i unrhyw un sydd mewn trallod emosiynol. Yng Nghymru, mae’r Samariaid yn gweithio’n lleol ac yn genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaeth ac estyn allan i gymunedau lleol i gynorthwyo pobl sy’n cael trafferth i ymdopi. Maent yn ceisio defnyddio eu harbenigedd a’u profiad i wella polisïau ac arferion ac yn gyfranwyr gweithgar i’r gwaith o ddatblygu a rhoi ar waith Gynllun Gweithredu Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Cymru ‘Siarad â Fi 2’.
Dulliau gweithredu lleol ar gyfer lleihau tlodi: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus
Ymateb Samariaid Cymru
Cyflwyniad
Mae Samariaid Cymru’n croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn ac mae’n galonogol gweld y Cynulliad yn canolbwyntio’n fanwl ar dlodi yng Nghymru.
Rydym wedi croesawu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru ac wedi gweithio gyda’r Comisiynydd i ddarparu canllawiau i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar waith lleol i atal hunanladdiad. Yn aml mae aelodau o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ‘bobl sy’n flaenoriaeth’ a nodir yn Siarad â Fi 2, a ddylai fod yn rhanddeiliaid a phartneriaid craidd sy’n datblygu a gweithredu gwaith lleol i atal hunanladdiad. Rydym wedi bod yn hapus i weld cydweithio rhwng fforymau lleol atal hunanladdiad a byrddau gwasanaethau cyhoeddus dros y flwyddyn ddiwethaf; er enghraifft, mae Gweithgor Gweithredol Atal Hunanladdiad Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweithredu fel Grŵp Gorchwyl a Gorffen i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y grŵp yn parhau i adrodd ar gynnydd i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr, yn arbennig ar y gwaith o gasglu a dadansoddi data hunanladdiadau lleol. Er bod cydweithredu o’r math hwn yn hanfodol ac yn gyson â chylch gwaith bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, mae’n bwysig nodi bod strategaethau lleol, yn nhermau atal hunanladdiad, yn cael eu creu gyda chyfarwyddyd y strategaeth drosfwaol, Siarad â Fi 2.
Hunanladdiad a thlodi yng Nghymru
Yn 2016, bu 322 o hunanladdiadau yng Nghymru – dynion oedd 265 (82%) o’r rhain a menywod oedd 57 (18%). Mae hyn yn cymharu â 274 (78%) o ddynion a 76 (22%) o fenywod yn 2015. O safbwynt y Deyrnas Unedig, erbyn hyn hunanladdiad yw achos mwyaf marwolaeth ymysg dynion iau na 50 oed a menywod rhwng 20 a 34 oed, ac achos mwyaf marwolaeth ymysg pobl ifanc iau na 35 oed.
Ochr yn ochr â hyn, mae bron un o bob pedwar o bobl yng Nghymru’n byw mewn tlodi, sy’n golygu eu bod yn cael llai na 60% o’r cyflog cyfartalog. Gan Gymru mae’r gyfradd tlodi uchaf ond dwy yn y Deyrnas Unedig ac mae risg byw mewn tlodi’n uwch i rai grwpiau.[1]
Er nad oes un rheswm unigol pam mae pobl yn lladd eu hunain, mae anfantais economaidd gymdeithasol neu fyw mewn ardal o amddifadedd economaidd gymdeithasol yn un o’r ffactorau risg allweddol ar gyfer ymddygiad hunanladdol. Mae ardaloedd o amddifadedd economaidd gymdeithasol mawr yn tueddu i fod â chyfraddau hunanladdiad uwch a pho uchaf yw’r lefel amddifadedd mae unigolyn yn ei phrofi, uchaf yw’r risg ymddygiad hunanladdol. Yn 2016, comisiynodd y Samariaid wyth gwyddonydd cymdeithasol blaenllaw i adolygu ac ehangu’r corff gwybodaeth presennol ar y pwnc hwn, gan ymdrin â’r cyswllt rhwng amddifadedd economaidd gymdeithasol ac ymddygiad hunanladdol a dod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â’r cyswllt hwn. Dyma rai o’r canfyddiadau allweddol a nodwyd yn ‘Marw o Anghydraddoldeb’ -
Dull gweithredu canolog
Rydym yn credu y dylai strategaeth ganolog arwain ym meysydd tlodi a hunanladdiad fel ei gilydd. Mae’r ddau’n broblemau mawr o ran iechyd y cyhoedd, a rhaid iddynt aros yn agos at frig yr agenda. Mae gan bob ardal leol yng Nghymru ddaearyddiaeth, economi a phoblogaeth unigryw. Mae’n dilyn y bydd proffil amddifadedd a risg cysylltiedig hunanladdiad hefyd yn amrywio rhwng poblogaethau lleol.
Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gyrff annatod ar gyfer gwaith lleol i atal hunanladdiad ac ar gyfer lleihau tlodi. Er bod llawer o asesiadau llesiant wedi nodi bod tlodi’n destun pryder mawr, yn aml caiff ei restru ochr yn ochr â llawer o fathau eraill o anghydraddoldeb sy’n drwch trwy ardaloedd lleol ledled Cymru. Rhaid monitro ac adrodd mewn modd systematig ar waith lleihau tlodi. Mae ehangder y ffactorau cymhleth sy’n gysylltiedig â risg hunanladdiad a lleihau tlodi yn pwysleisio’r angen am weithredu amlasiantaethol, trawslywodraethol ac unedig, dan arweiniad strategaeth ganolog. Mae lleihau tlodi’n anghenraid lleol a chenedlaethol ac yn un a ddylai gael blaenoriaeth fawr ar fyrder ar agenda cenedlaethol iechyd y cyhoedd yng Nghymru.